Ffoniwch ni nawr ar 01341 424650 - enquiries@trehernecaregroup.comEnglish
Mae Ystâd Garthangharad yn cynnwys amryw fythynnod a Phlasdy mawr o fewn 66 erw o dir, gyda Chader Idris yn amlwg yn y cefndir. Gall y rheiny sy’n byw ar Ystâd Garthangharad fwynhau cerdded o amgylch y dirwedd a’r gerddi ac i’r rheiny sy’n gallu, ac yn barod i wneud hynny, gallant gyfrannu at gynnal a chadw’r tir. Gellir dod i mewn ac allan o’r safle drwy dramwyfeydd dwbl ac wrth y rhain mae dau borthdy, un ar waelod tramwyfa’r dwyrain (East Lodge) ac un ar waelod tramwyfa’r gorllewin (West Lodge). Mae’r ddau safle wedi’u rhannu’n ddau fflat hunangynhwysol, cyfanswm o 4, sef Fflat 1 East Lodge, Fflat 2 East Lodge, Fflat 1 West Lodge a Fflat 2 West Lodge. O fewn y dirwedd ac ar dop yr ystâd mae 8 safle arall sydd wedi’u trosi’n gartrefi hunangynhwysol – Housekeepers Cottage, Gardeners Cottage, Virgo Cottage, Rose Cottage, Orchard Cottage, Gemini Cottage, Stables Flat a Coach-House – sy’n disgwyl am waith adfer. |
© 2024 Treherne Care Group. Gwefan gan Delwedd