Ffoniwch ni nawr ar 01341 424650 - enquiries@trehernecaregroup.co.ukEnglish

Amdanom Ni

Natur y busnes:
Gofal Cartref Arbenigol a Gwasanaeth Preswyl ar gyfer Oedolion gydag Anhwylderau Meddyliol Cymhleth

Sefydlwyd Treherne Care and Consultancy Ltd gan y cyn berchennog Mrs Moya Treherne ym 1999. Dechreuodd Mrs Treherne yn bennaf gydag agwedd Ymgynghoriaeth ei busnes. Cafodd ei chomisiynu gan Gyfreithwyr Cyfraith Iechyd Meddwl i gynnal asesiadau a chynhyrchu adroddiadau ar unigolion a oedd wedi gwneud cais am Dribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl. Agwedd arall ar y busnes oedd cynnig gwyliau i oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl parhaus neu’r rheiny ag Anabledd Dysgu ym mwthyn Tremora, drws nesaf i gartref Mrs Treherne.

Roedd Moya eisiau i wasanaethau Gofal Treherne gynnig cyfleoedd i’r rheiny gydag Anhwylderau Meddyliol Cymhleth nad oedd yn hawdd eu rhoi/adfer mewn lleoliadau cymunedol, yn arbennig y rheiny mewn amgylchoedd ysbyty tymor hir. Roedd ei hethos a’i chred yn ymwneud ag adeiladu pecynnau gofal a chymorth gyda strategaethau rheoli risg cadarn o amgylch yr unigolyn (fel y byddwn ni’n ei ddweud y dyddiau hyn, nid ydym ni’n ffitio pobl mewn bocsys, rydym ni’n adeiladu’r bocs, waeth pa siâp sydd arno, o amgylch yr unigolyn). Roedd Moya yn teimlo fod pawb (o fewn rheswm) yn haeddu cyfle i fyw mewn amgylchedd cymunedol diogel er mwyn eu helpu i adsefydlu ac adfer. Dyma yw ein hethos byth ers hynny wrth ddatblygu’r busnes.

Ddechrau’r 2000au, sefydlodd Mrs Treherne fwthyn Tremora fel Cartref Preswyl Cofrestredig bach gyda lle i dri oedolyn (yn benodol y rheiny gydag Anhwylderau Meddyliol Cymhleth nad oedd yn hawdd eu rhoi mewn lleoliadau cymunedol).

O hyn, mae’r cwmni wedi tyfu gyda datblygiad ein gwasanaeth Gofal Cartref a Byw â Chymorth. Daethom yn wasanaeth Gofal Cartref cofrestredig yn 2005 o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000, Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 a oedd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaeth arbenigol ar gyfer oedolion gydag anhwylderau meddyliol cymhleth o fewn llety nad oedd yn gartref preswyl.

Cafodd Grŵp Gofal Treherne ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Hydref 2018, o dan y Rheoliad a Deddf Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 sy’n cynnwys ein gwasanaethau Gofal Cartref a Gofal Preswyl.

Mae ein gwasanaeth yn cynnwys:

Bwthyn Tremora, ein cartref gofal preswyl cofrestredig bach yn Llanaber, Abermaw i 3 oedolyn.

Rydym ni’n darparu cymorth o dan ein gwasanaethau Gofal Cartref o fewn cartrefi unigolion p’un a ydynt yn anheddau (dwellings) Treherne Properties Ltd neu dai cymunedol lleol eraill.

Mae gan Treherne Properties yr opsiynau canlynol o ran llety:

Neuadd Clogwyn – ystâd fach wledig o fewn 22 o erwau yn Nolgellau, gyda bythynnod a fflatiau ar gyfer 9 o unigolion.

Garthangharad – ystâd wledig yn Llynpenmaen, Dolgellau sydd â nifer o adeiladau o fewn ei dir 66 o erwau gydag anheddau unigol ar gyfer 12 o unigolion.

Llyndir – bwthyn (gyda rhandy neu annex) yn Nolgellau ar gyfer 2 o bobol.

Yr Hen Ysgol – tŷ ysgol sydd wedi’i drosi a Fflat Stiwdio ar wahân yn Llanelltyd, Dolgellau, ar gyfer 4 o unigolion.

Rydym ni hefyd yn cynnig gofal a chymorth i unigolion sy’n byw mewn cartrefi eraill yn Nolgellau, Abermaw a thai eraill o fewn ardal Meirionnydd yng Ngwynedd.

Beth ydym ni’n ei wneud:

Mae Grŵp Gofal Treherne yn darparu Gofal Cartref Arbenigol/Trefniadau Byw â Chymorth a Gwasanaeth Gofal Preswyl ar gyfer oedolion gydag Anhwylderau Meddyliol (Anhwylderau Dysgu a/neu Broblemau Iechyd Meddwl Cymhleth yn bennaf) sy’n unigryw i’w grŵp o ddefnyddwyr gwasanaeth. Mae’n wasanaeth therapiwtig sy’n cynnig pecynnau gofal wedi’u teilwra’n benodol i alluogi unigolion sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain (yn berchen ar gartref neu’n rhentu) neu sydd angen gofal preswyl mewn lleoliad cymunedol. Mae’r gwasanaeth yn golygu y gallant gynnal eu hannibyniaeth drwy gymorth a goruchwyliaeth, yn ôl eu hanghenion penodol, gan dimau gofal profiadol a chymwys.

Mae’r timau gofal wedi’u hyfforddi a’u datblygu i weithio gyda’r rheiny a allai gyflwyno rhai o’r anghenion cymhleth canlynol oherwydd eu Hanhwylder Meddyliol yn ogystal ag Anhwylder Dysgu a/neu Broblemau Iechyd Meddwl cymhleth

  • Ymddygiadau heriol a bygythiol difrifol
  • Defnyddwyr gwasanaeth gyda hanes o ymddygiadau troseddu difrifol (cefndir fforensig)
  • Rheiny gyda Phroblemau Iechyd Meddwl parhaus a chymhleth sy’n aml yn cael eu rheoli’n wael drwy ymyrraeth feddygol
  • Pobl sydd wedi cael niwed i’r ymennydd
  • Unigolion gydag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
  • Unigolion gydag Anhwylderau Personoliaeth
  • Unigolion gyda phroblemau yn ymwneud ag alcohol a chyffuriau sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u gallu i fyw’n annibynnol
  • Defnyddwyr gwasanaeth sy’n destun agweddau penodol ar Ddeddf Iechyd Meddwl 1983/2007 sy’n cefnogi byw yn y gymuned gan gynnwys Gorchymyn Trin Cymunedol (CTO)
  • Defnyddwyr gwasanaeth gydag anghenion cymhleth sy’n symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion
  • Defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anhwylderau meddyliol eraill megis Dementia, Clefyd Pick (Dementia Blaenarleisiol neu Frontotemporal)
  • Defnyddwyr gwasanaeth sydd ag anhwylderau sy’n ymwneud â heneiddio yn ogystal ag anhwylder meddyliol presennol

Mae’r gwasanaeth a ddarparwn wedi’i ddatblygu o amgylch y person a phob pecyn gofal/cymorth wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ac amgylchiadau penodol ac unigol.

Fel rhan o becynnau gofal a chymorth Grŵp Gofal Treherne, rydym ni’n helpu unigolion i gael mynediad at lety yn bennaf o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, yn bresennol o fewn ardal Abermaw a Dolgellau. Fodd bynnag, dros amser, rydym ni’n anelu at ddatblygu ein gwasanaeth i gynnig cymorth ymhellach na hynny, fel Porthmadog, y Bala neu leoliadau eraill o fewn 30 milltir i’n swyddfa ganolog. O fewn ein pecynnau gofal, rydym ni’n cefnogi unigolion i reoli eu bywydau bob dydd a’u hamgylchedd cartref. Mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i gael mynediad at denantiaeth briodol os nad ydynt eisoes yn byw yn eu cartrefi eu hunain. Pwysig: efallai bod y defnyddiwr wedi bod mewn ysbyty/sefydliad hirdymor ac nad oes ganddynt unrhyw le i fyw unwaith y maent yn symud yn ôl i’r gymuned. Gall y denantiaeth gael ei chynnig gan Treherne Properties Ltd neu landlordiaid lleol eraill.

Mae gan unigolion ddewis (wedi’u cefnogi gan eu cynrychiolwyr a chomisiynwyr) o ran pa Ddarparwr Gofal fydd yn rhoi gofal a chymorth iddynt. Gall unigolion ddewis (yn arbennig os ydynt yn byw gyda chymorth) defnyddio darparwr gwasanaeth arall pe na bai Grŵp Gofal Treherne bellach yn gallu diwallu eu hanghenion penodol a’u dewisiadau personol, neu efallai y bydd hyn mewn cydweithrediad â darparwyr eraill.

Tîm Clinigol

Caiff agwedd Gofal a Chymorth ein gwasanaethau eu cefnogi gan ein Tîm Clinigol mewnol sy’n cynnig cymorth clinigol ar reoli a galluogi ein defnyddwyr ac ymyriadau cwnsela mewnol ar gyfer staff.

Gwaith y Tîm Clinigol:

  • Cynhyrchu adroddiadau seicolegol blynyddol ar gyfer pob unigolyn (gan gynnwys fersiynau hawdd eu darllen ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth eu hunain). Caiff yr adroddiadau hyn eu rhannu â gweithwyr proffesiynol perthnasol eraill sy’n ymwneud â gofal yr unigolyn. Cynhyrchir yr adroddiadau hyn o ganlyniad i asesiadau clinigol, mewnbwn gan yr unigolyn a’r rheiny sydd agosaf atynt gan gynnwys teulu, eu tîm cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill i bennu canlyniadau tymor byr a hirdymor ar gyfer yr unigolyn.
  • Cynnal yr asesiadau risg perthnasol megis HCR-20 ˅3 ac SVR-20 ynghyd ag Asesiad Strwythuredig o Ffactorau Diogelu ar gyfer y risg o drais (SAPROF).
  • Archwilio’r perthnasau rhwng lles ffisiolegol a seicolegol pob defnyddiwr gwasanaeth er mwyn asesu unrhyw gymhlethdodau corfforol a meddyliol cysylltiedig.
  • Darparu Cynlluniau Cymorth Ymddygiad wedi’u teilwra’n unigol.
  • Cydgysylltu cyfarfodydd clinigol rheolaidd gyda’r staff, cynnig cyngor a chefnogaeth ynghylch materion o bryder presennol a chymryd camau dilynol gyda gweithwyr proffesiynol eraill.
  • Cynnal cyfarfodydd cymorth gweithredol rheolaidd wedi’u llywio gan asesiadau, profiad staff ac anghenion defnyddwyr. Yna, caiff canlyniadau eu hadolygu a’u gweithredu.
  • Casglu tystiolaeth o ganlyniadau, defnyddio lluniau, adroddiadau ansoddol a meintiol a chrynodebau.
  • Darparu therapi unigol un i un ar gyfer defnyddwyr.

Y dulliau sy’n sail i hyn:

Wrth wraidd ein gwasanaeth mae dull sydd wedi’i deilwra i’r unigolyn o asesu, cynllunio gwasanaeth a darparu gwasanaeth. Mae ein dull yn galluogi gwasanaeth mwy personol a hyblyg lle caiff y math o gymorth, y dwysedd a’r amlder ei deilwra’n ofalus i anghenion a galluoedd, nodau, dyheadau a dewisiadau unigolion.

Drwy ddarparu pecynnau cymorth wedi’u teilwra ar gyfer unigolion yn eu cartrefi eu hunain, rydym ni’n gallu hwyluso dysgu a gwella integreiddiad a phresenoldeb cymunedol (gan ystyried ffactorau risg presennol a phosibl).

Rydym ni’n cofleidio ac yn hyrwyddo’r egwyddorion canlynol i alluogi ymgysylltiad, datblygiad personol a phresenoldeb cymunedol:

  • Dulliau cynhyrfiad isel
  • Model cymorth gweithredol
  • Dull ymddygiad cadarnhaol
  • Cynllunio o amgylch y person

Rydym ni’n mabwysiadu dull rhagweithiol ac adweithiol i ddiwallu anghenion unigolion, gyda’r pwyslais ar beth mae’n ymddangos sydd ei angen ar y defnyddiwr er mwyn cynnal ei annibyniaeth a’i bresenoldeb yn y gymuned. Awn i’r afael â hyn drwy asesu effeithiol yn barhaus a chynllunio cymorth â ffocws gan roi strategaethau rheoli risg clir ar waith.

Mae gan ein staff yr hyfforddiant a’r sgiliau i gefnogi unigolion i nodi sgiliau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol, waeth beth yw’r problemau.

Caiff yr ethos hwn o ddarparu gwasanaeth ei fabwysiadu gan nifer o sefydliadau, ac mae Grŵp Gofal Treherne wedi’u cofleidio dros nifer o flynyddoedd. I sicrhau llwyddiant, mae’r elfennau allweddol fel a ganlyn:

Dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn:

  • Cofleidio’r dulliau Cymorth Gweithredol ac Ymddygiad Cadarnhaol ym mhob rhan o’r sefydliad drwy hyfforddiant effeithiol, cefnogaeth fonitro gan ein Cydlynydd Clinigol sy’n gweithio gyda’r timau i sicrhau ffocws a chynnydd. Gweler yr wybodaeth isod.
  • Gweithio mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaeth, y rheiny sydd agosaf atynt (teulu, ffrindiau ac eiriolwyr) ac aelodau’r tîm amlddisgyblaethol i sicrhau y caiff cyfleoedd eu harchwilio yn fanwl.
  • Gweithio gyda cholegau lleol, cynlluniau cyflogaeth a’r gymuned leol i alluogi unigolion i gymryd rhan a bod yn ddinasyddion gweithgar yn eu hardaloedd lleol.
  • Galluogi unigolion i gymryd perchnogaeth o’u cynlluniau darparu gwasanaeth, cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd drwy amrywiaeth o gyfryngau.
  • Mae adolygu cynnydd yn rheolaidd yn hanfodol, ac rydym ni’n cyflawni hyn drwy:
    • Gyfarfodydd MDT
    • Defnyddwyr gwasanaeth yn cadw eu cofnodion eu hunain o lwyddiant/cyrhaeddiad drwy ddull o’u dewis (lluniau er enghraifft)
    • Cyfarfodydd adolygu mewnol
    • Cyfarfodydd cymorth gweithredol gyda’r staff
    • Asesiad sgiliau a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd (e.e. ABAS)
    • droddiadau dyddiol, wythnosol a chwarterol
  • Mae goruchwyliaeth a hyfforddiant/datblygiad staff rheolaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant.

Rydym ni’n mabwysiadu egwyddorion fframwaith SPELL sy’n ymgorffori popeth isod:
Strwythur – amserlenni, cynllunwyr, cymhorthion cyfathrebu ac ati
Dulliau cadarnhaol
Empathi
Cynhyrfiad isel
Cysylltiadau – sicrhau cysondeb a chamau y gellir eu rhagweld drwy gyfathrebu rhwng cefnogwyr ac asiantaethau, a gwneud gweithgaredd mor gymdeithasol gynhwysol â phosib.

Cymorth gweithredol a dull cymorth ymddygiad cadarnhaol

Cymorth gweithredol
Cymorth gweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn:

Nod cymorth gweithredol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yw galluogi staff i gefnogi unigolion i gymryd rhan mewn gweithgarwch a pherthnasau ystyrlon gan fod cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau yn cynnig profiad o amrywiaeth mewn bywyd a’r cyfle i wneud dewisiadau go iawn a gwybodus.

Mae cymryd rhan weithredol yn cynyddu’r cyfleoedd i unigolion ryngweithio ag eraill mewn ffyrdd ystyrlon a phwrpasol, mewn ffordd fwy cymesur, yn hytrach na bod rhywun yn ‘siarad at’ neu’n ‘gwneud rhywbeth dros’ y person hwnnw.

Mae’n sicrhau y caiff yr unigolyn ei weld gan eraill fel rhywun sy’n cymryd rhan ac sydd mewn rheolaeth, gan gynyddu eu statws a hyrwyddo cyfleoedd i ddenu pobl eraill i’w bywyd.

Rydym ni’n gweld Ymgysylltiad yn cael ei ddiffinio fel:

  • Gwneud rhywbeth adeiladol gyda deunyddiau (e.e. glanhau gyda sugnwr llwch, gosod y bwrdd bwyd, llwytho peiriant golchi, tasgau bob dydd eraill yn y cartref ac ati)
  • Rhyngweithio â phobl (e.e. siarad neu wrando arnynt neu roi sylw i beth maen nhw'n ei wneud, cynnal sgwrs, gwylio rhywun yn dangos i unigolyn sut i wneud rhywbeth)
  • Cymryd rhan mewn gweithgaredd grŵp (e.e. chwarae tennis, neu gymryd rhan mewn sesiynau cerddorol, cyfleoedd cymdeithasol eraill)

Mae'r pwyslais ar ymgysylltu yn hytrach na rhoi pwysau i gwblhau tasgau cyflawn. Ymgysylltu ag unigolyn pan fo unigolyn yn agored i ymgysylltu ac yn fodlon cymryd rhan (cyn belled â bod y person yn gallu canolbwyntio a bod y gweithgaredd yn ddigon diddorol iddyn nhw).

Mae cymorth gweithredol wedi'i ddylunio i sicrhau bod pobl sydd angen cymorth yn cael y cyfle i gymryd rhan lawn yn eu bywydau a chael yr amrywiaeth a'r lefel briodol o gefnogaeth i fod yn llwyddiannus. Mae nifer o astudiaethau ymchwil wedi dangos ei fod yn effeithiol.

Mae gan gymorth gweithredol dair elfen:

  1. Rhyngweithio i Annog Cymryd Rhan. Mae pobl sy'n cefnogi'r unigolyn yn dysgu sut i roi'r lefel gywir o gymorth iddynt fel y gallant ymgymryd â’r holl weithgareddau bob dydd sy'n codi mewn bywyd. Mae ein Tîm Clinigol yn cefnogi'r staff sy'n gweithio gyda phob unigolyn i ddatblygu a chofleidio hyn.
  2. Cynlluniau Cymorth Gweithgareddau. Mae'r rhain yn ffordd o drefnu tasgau cartref, hunanofal personol, hobïau, trefniadau cymdeithasol a gweithgareddau eraill sydd eu hangen ar unigolion neu mae unigolion yn dymuno eu gwneud bob dydd ac i bennu pa gefnogaeth sydd ar gael er mwyn gallu cyflawni gweithgareddau'n llwyddiannus. Mae'r Tîm Clinigol yn gweithio gyda'r staff cymorth i gwblhau asesiadau perthnasol gan gynnwys ABAS i nodi lefel sgiliau ac ymgysylltiad cyfredol pob unigolyn, cyn datblygu cynlluniau cymorth gweithgaredd er mwyn iddynt allu cymryd rhan a datblygu sgiliau.
  3. Cadw Cofnod. Dull syml o gofnodi'r cyfleoedd sy’n dod i ran pobl bob dydd sy'n golygu bod modd monitro ansawdd yr hyn sy'n cael ei drefnu a rhoi gwelliannau ar waith ar sail tystiolaeth. Cefnogir ac anogir y staff i gynhyrchu ystod o gofnodion ac adroddiadau, gan gynnwys lluniau, i ddangos ymgysylltiad pob unigolyn mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Mae gan bob elfen system ar gyfer cofnodi cynnydd, sy'n rhoi adborth i'r staff ac yn llywio adolygiadau rheolaidd.

Nod cymorth gweithredol yw helpu pobl i fyw bywydau llawn. Fodd bynnag, ni ellir defnyddio cymorth gweithredol ar ei ben ei hun. Yng Ngofal Treherne, caiff ei ddefnyddio ochr yn ochr â dulliau eraill sy'n cynnwys cynlluniau sy'n canolbwyntio ar y person, cynhyrfiad isel a chefnogaeth ymddygiad cadarnhaol.

Cynlluniau sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn

Mae cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ffordd o ystyried datblygiadau pwysig ym mywydau pobl fel rhan o adolygiad cyffredinol rheolaidd o'r hyn sy’n cael ei gyflawni a'r hyn a allai fod yn bosibl yn y dyfodol. Mae dewisiadau unigol a chyfraniad y person dan sylw wrth benderfynu pa ganlyniadau i'w dilyn yn bwysig. Gellir cytuno ar amcanion ar gyfer datblygu gweithgarwch yr unigolyn, perthnasau cymdeithasol, dysgu, annibyniaeth, awtonomiaeth, iechyd, cartref, swydd neu agwedd arall sy'n bwysig i ansawdd eu bywyd. Yna, mae angen trosi amcanion yn weithredoedd a bwrw ymlaen â’r rhain. Gall cymorth gweithredol, fel dull ategol sy’n canolbwyntio ar y person, chwarae rhan wrth ddatblygu cyfleoedd a gweithgareddau'r unigolyn.

Bydd gan bob defnyddiwr Gynllun sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn sy'n cael ei adolygu, ei ddiwygio a'i ddatblygu yn rheolaidd, a’i gwneud yn ddogfen 'fyw'. Yn ogystal, datblygir pob Cynllun Cymorth trwy ddull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chânt eu hadolygu yn rheolaidd gan y defnyddwyr eu hunain cyn belled ag y bo modd, a’r Tîm Cymorth.

Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
Mae cymorth ymddygiad cadarnhaol bellach wedi’i ymgorffori ym mholisi’r llywodraeth ac wrth wraidd dogfen bolisi’r Adran Iechyd ‘Gofal Cadarnhaol a Rhagweithiol’ a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2014.

Dyma beth yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol:
Dealltwriaeth o ymddygiad unigolyn. Mae'n seiliedig ar asesiad o'r amgylchedd cymdeithasol a ffisegol lle mae’r ymddygiad yn digwydd, yn cynnwys safbwyntiau’r unigolyn a phawb sy'n gysylltiedig, ac yn defnyddio'r ddealltwriaeth hon i ddatblygu cefnogaeth sy'n gwella ansawdd bywyd yr unigolyn ac eraill sy'n gysylltiedig â nhw.

Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn canolbwyntio ar helpu pobl i ddatblygu fel nad ydynt bellach yn dibynnu ar ymddygiad heriol. Gall cymorth gweithredol a chynlluniau cyfle a dysgu fod â rhan i'w chwarae mewn cynllun cymorth ymddygiad cadarnhaol cynhwysfawr.

Dyma drosolwg syml o sut mae cymorth ymddygiad cadarnhaol yn gweithio.

Cam 1: Casglu a dadansoddi data sy'n ymwneud â'r ymddygiad dan sylw. Mae hyn yn cynnwys archwilio beth sy'n digwydd cyn, yn ystod ac ar ôl yr ymddygiad, pa mor ddwys yw’r ymddygiad, pa mor aml y mae'n digwydd a pha mor hir y mae'n para.

Bydd hyn yn cael ei gydlynu gan y Tîm Clinigol/Cydlynydd Clinigol, a fydd yna’n llunio adroddiadau o'r dadansoddiadau ac yn rhannu â phawb sy'n gysylltiedig, gan gynnwys yr unigolyn dan sylw.

Cam 2: Pan fydd gennych chi ddealltwriaeth fanwl o'r ymddygiad a pham ei fod yn digwydd, caiff nifer o strategaethau eu dylunio a’u gweithredu i leihau ymddygiad diangen yr unigolyn, a gwella ei gyfleoedd byw a'i les. Mae'r strategaethau wedi'u grwpio fel a ganlyn:
Strategaethau cynradd (Rhagweithiol): popeth sy'n cael ei roi ar waith sy'n lleihau'r tebygolrwydd y bydd yr ymddygiad yn digwydd; er enghraifft, rheoli sefyllfaoedd sy’n sbarduno ymddygiad, newid amgylcheddau, a chynnig cyfleoedd i gael profiadau newydd ac ennill sgiliau newydd.

Strategaethau eilradd: cynlluniau yw’r rhain ar beth i'w wneud os nad yw'r strategaethau cynradd yn gweithio ac mae ymddygiad yn dechrau gwaethygu. Gallai'r rhain gynnwys dulliau tawelu, newid yr amgylchedd, tynnu sylw'r person at weithgaredd y maen nhw'n ei fwynhau.

Strategaethau adweithiol: mae'r rhain yn strategaethau cadarn, wedi'u cynllunio a gaiff eu gweithredu pan fo ymddygiad heriol yn digwydd. Y nod yw cymryd rheolaeth dros y sefyllfa a lleihau'r perygl i'r person ac i eraill.

Datblygir y strategaethau gan y Tîm Clinigol/Cydlynydd Clinigol gydag aelodau o'r Tîm Amlddisgyblaethol, y staff, yr unigolyn dan sylw a phobl eraill o bwys. Mae hyn yn cynnwys Cynllun Cymorth Therapiwtig unigol, hawdd ei ddarllen, sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol am gyfnod penodol. Caiff ei adolygu o leiaf dwywaith bob blwyddyn. Cofnodir tystiolaeth o ganlyniadau a gyflawnir, a chofnodir strategaethau mewn Cynllun Cymorth Ymddygiad cynhwysfawr.

Cam 3: Adolygu a diwygio'r cymorth a ddarperir yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion, diddordebau, iechyd a lles a risgiau cyfredol.

Bydd y Tîm Clinigol/Cydlynydd Clinigol yn cwrdd â’r tîm cymorth a'r unigolyn dan sylw yn rheolaidd (bob 5 wythnos fel arfer).

Nid yw Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn golygu y bydd ymddygiad yn diflannu. Y nod yw lleihau’r tebygolrwydd ei fod yn digwydd, er y gall ymddygiad ddiflannu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu y dylid tynnu’r cymorth ymddygiad cadarnhaol yn ôl. Dylid ei adolygu a’i addasu i ddiwallu’r amgylchiadau newydd.

Cynlluniau Cyfle neu Ddysgu
Mae cynlluniau cyfle yn ffordd i ganolbwyntio ar nifer o sgiliau a threfnu cyfleoedd rheolaidd i'w hymarfer er mwyn helpu rhywun i ddysgu. Mae cynlluniau dysgu yn cynnig arweiniad mwy penodol fyth ar sut i ddysgu sgiliau penodol. Datblygir y rhain gyda'r defnyddwyr a'u timau cefnogi ar sail unigolyn, gan ganolbwyntio ar y person er mwyn sicrhau bod y dogfennau cofnodi yn ategu anghenion a lefel cymorth y defnyddiwr.

Rôl y Gweithiwr Cymorth
Mae’n hanfodol fod Gweithwyr Cymorth yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd clinigol/cymorth gweithredol rheolaidd er mwyn cynnal y dulliau hyn. Yn y cyfarfodydd hyn, caiff adborth ei rannu, cynlluniau eu hadolygu, a strategaethau eu haddasu/gweithredu.

Mae Staff Cymorth yn rhan o'r broses asesu a chynllunio cyn belled â phosib, trwy gyfraniadau mewn cyfarfodydd a'u dyfeisgarwch annibynnol eu hunain wrth gael eu mentora gan eu rheolwr llinell.

Mentora V Gofalu
Dylai gweithwyr cymorth weld eu rôl fel ‘mentoriaid’ yn hytrach na ‘gofalwyr’. Rôl mentor yw darparu cyfleoedd addysg, hamdden a chymorth i unigolion. Gallai'r gefnogaeth a ddarperir trwy fentora herio syniadau newydd i'r sawl sy'n cael ei fentora a’i annog i symud y tu hwnt i'r pethau mwyaf cyfforddus. Mae ansawdd y berthynas fentora yn bwysig er mwyn i’r rhai sy’n cael eu mentora brofi canlyniadau cadarnhaol. Mae perthynas mentor yn fwy llwyddiannus pan fydd y mentor yn gofalu am y person cyfan. Mae mentoriaid llwyddiannus yn dueddol o fod ar gael, yn wybodus, wedi'u haddysgu mewn materion amrywiaeth, yn empathig, yn bersonol, yn galonogol, yn gefnogol ac yn angerddol.

Mae’r pwyslais ar gynnig dull dyneiddiol a holistaidd o ddarparu gwasanaeth.

Polisi Preifatrwydd (Saesneg yn unig) | Polisi Cwcis

© 2019 Treherne Care Group. Gwefan gan Delwedd