Ffoniwch ni nawr ar 01341 424650 - enquiries@trehernecaregroup.comEnglish

Datgelu Cenhadaeth

Dyma yw Cenhadaeth Grŵp Gofal Treherne:

Darparu gofal a chefnogaeth o safon drwy ofal unigol a phecynnau cefnogaeth o fewn ein gwasanaethau preswyl a byw â chymorth (gosodiadau llety arbenigol a chyffredin).

  • Ein nod yw galluogi, hwyluso, cefnogi a thywys unigolion tuag at fywyd gwerthfawr o fewn y gymuned cyn belled â bod eu galluoedd yn caniatáu iddynt.
  • Ein nod yw galluogi a chyflawni’r canlyniadau gorau i unigolion.
  • Rydym ni’n rhoi hawliau’r rheiny yn ein gofal wrth wraidd ein hathroniaeth o ofal a chymorth.
  • Gall unigolion nodi beth maent yn ei ddisgwyl a’i angen gan ein gwasanaeth.

Nod ein gwasanaethau yw gwella ansawdd bywyd a lles ein defnyddwyr, galluogi a chyflawni’r canlyniadau gorau, cynnig gwerth da am arian ar gyfer ein prynwyr a sicrhau cefnogaeth effeithiol a rhagweithiol ar gyfer pobl sydd ag anghenion cymhleth o fewn ein trefniadau byw â chymorth a’r amgylcheddau cymunedol ehangach.

Rydym ni’n cydnabod, er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’n rhaid i ni wneud defnydd effeithlon o’n hadnoddau a chynnal cydbwysedd cywir a rhesymol rhwng ein rhwymedigaethau i’n hamryw randdeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr, eu teuluoedd/pobl agos, prynwyr/comisiynwyr, staff a’r gymuned ehangach. Mae’r rhwymedigaethau hyn yn cynnwys:

Mewn perthynas â defnyddwyr ein gwasanaeth

  • Darparu gwasanaethau sy’n hyrwyddo lles corfforol, emosiynol a meddyliol unigolion.
  • Darparu gwasanaethau sy’n hyrwyddo ac yn galluogi’r canlyniadau gorau i unigolion.
  • Darparu gwasanaethau sy’n hyrwyddo dewis, urddas a hunanbenderfyniad.
  • Darparu gofal a chymorth mewn gosodiad naturiol sy’n gweddu orau i anghenion a dewisiadau unigol ac sy’n hyrwyddo presenoldeb a chymryd rhan yn y gymuned.
  • Darparu gwasanaethau personol ac ymatebol er mwyn mynd i’r afael â chryfderau, anghenion a nodau pob unigolyn a gefnogir gennym, sy’n unigryw ac yn newid.

Mewn perthynas â’n prynwyr:

  • Darparu gwasanaethau cost-effeithiol sy’n ymateb i anghenion prynwyr.
  • Darparu gwasanaethau arloesol a hyblyg sy’n addasu i anghenion newidiol.
  • Darparu gwasanaethau sydd â’r nod o leihau costau gofal a chymorth dros amser lle bo’n bosibl.

Mewn perthynas â’n staff:

  • Darparu hyfforddiant a goruchwyliaeth statudol a gaiff ei lywio gan y gwasanaeth er mwyn i bawb allu cyflawni pob agwedd ar eu gwaith yn llwyddiannus.
  • Darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a mentora i wella cyfleoedd gyrfa.
  • Creu amgylchedd y gall pobl gymryd rhan ynddo ar gyfer gosod nodau, ceisio eu mewnbwn, ac annog cyfrifoldeb ac atebolrwydd unigolion.
  • Bodloni eu hanghenion unigol am gydnabyddiaeth, gwobrwyon, hunan-fri a thwf personol.

Mewn perthynas â’n cymunedau:

  • Cynnal ein gweithrediadau mewn ffordd foesegol.
  • Darparu gwasanaethau sy’n mynd i’r afael ag anghenion cymunedol a nodir mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Hyrwyddo balchder cymdogaeth a chymuned yn eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth o bobl gydag anableddau ac anghenion cymhleth.

Yn sail i hyn, rydym ni’n anelu at sicrhau ein bod yn hyrwyddo ac yn galluogi diwylliant o fod yn agored ac yn dryloyw, gan sicrhau ein hymrwymiad i’n Dyletswydd o Onestrwydd

GRŴP GOFAL TREHERNE
GALLUOGI GWELL FFYRDD O FYW AR GYFER POBL SYDD AG ANGHENION CYMHLETH

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Treherne Care Group. Gwefan gan Delwedd