Nod ein gwasanaeth yw galluogi unigolion i ddechrau bywyd newydd/dychwelyd neu barhau i fyw yn y gymuned. Rydym ni yma i alluogi, hwyluso, cefnogi a thywys unigolion tuag at fywyd gwerth chweil o fewn y gymuned cyhyd a bod eu galluoedd unigol yn caniatáu iddynt fod yn eu cartref eu hunain neu o fewn ein cyfleuster gofal preswyl bach.
Rydym ni’n rhoi hawliau’r rheiny yn ein gofal wrth wraidd ein hathroniaeth o ofal a chymorth. Rydym ni’n gweithio gydag unigolion i sicrhau y caiff eu hawliau eu cynnal a’u hyrwyddo ar bob adeg ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Mae ein hethos yn adlewyrchu ein gwerthoedd sylfaenol:
- Preifatrwydd, cyd-barch ac urddas
- Arfer moesegol
- Ansawdd
- Diogelwch ac amgylchedd diogel
- Dewis unigol
- Hyrwyddo hyder, hunan-barch, hunan-werth a theimlo’n werthfawr
- Hyrwyddo hawliau sifil
- Grymuso
- Cyflawniad a chyrhaeddiad
- Cyfle cyfartal
- Hyrwyddo unigoliaeth
- Peidio â bod yn feirniadol
- Adnabod amrywiaeth
- Hyrwyddo cymryd rhan a chynnwys
- Hyrwyddo rhyddid
- Parchu cyfeiriadedd rhywiol (sicrhau bod hyn yn gyfreithlon)
- Hyrwyddo a pharchu anghenion diwylliannol ac ysbrydol
Mae ein dull yn cefnogi ein hethos a’n gwerthoedd craidd:
- Hyrwyddo lles corfforol, emosiynol a meddyliol
- Canolbwytio ar ganlyniadau ar gyfer unigolion
- Darparu pecynnau cymorth pwrpasol sydd wedi’u teilwra i’r unigolyn
- Hyrwyddo a galluogi cyfleoedd gweithgarwch therapwtig (addysg, cyflogaeth, sgiliau bywyd ac ati)
- Hyrwyddo a galluogi unigolion i gyfrannu at gymdeithas drwy ddigwyddiadau cymdeithasol/cymunedol
- Bod yn arloesol ac yn barod i addasu
- Diogelu
- Dulliau sy’n canolbwyntio ar y person, cynhyrfiad isel, cymorth gweithredol, cymorth ymddygiad cadarnhaol
- Cyfleoedd cymorth, ymyrryd ac adfer therapiwtig
- Asesu a rheoli risg heb wrthwynebu risg
- Rhoi cyfeiriad, hyrwyddo, annog, galluogi myfyrio ar dwf
- Cefnogi a galluogi gwneud penderfyniadau cymwys
- Cyfyngu cyn lleied â phosibl os yw unigolyn yn mynd i golli ei ryddid (sicrhau bod mesurau diogelu ar waith (DoLS/DiDS))
I sicrhau hyn, rydym ni’n:
- Galluogi gweithlu cymwys sydd wedi’i hyfforddi’n dda
- Sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus
- Sicrhau y caiff safonau eu gosod a’u cynnal