Ffoniwch ni nawr ar 01341 424650 - enquiries@trehernecaregroup.comEnglish

Defnyddwyr Ein Gwasanaeth

Mae Grŵp Gofal Treherne yn arbenigo mewn darparu ar gyfer oedolion 18+ oed gydag anhwylderau meddyliol cymhleth a phroblemau cysylltiedig fel y nodir yn y diagram isod:

Seicosis ac Anhwylderau Meddyliol cysylltiedig eraill
Anableddau Dysgu (ysgafn i ddwfn)
Anhwylderau Personoliaeth
Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig
Unigolion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd
Ymddygiadau hunan-anafu/hunan-niweidio
Rhai sydd â chefndir fforensig
Anhwylderau Meddyliol Dirywiol mewn Oedolion Iau e.e. Dementia Pick
Personoliaethau Caethiwus
Anhwylderau Gorfodaeth Obsesiynol
Camddefnyddio Alcohol a Sylweddau

Beth bynnag yw’r Anhwylder Meddyliol (yn ôl diffiniad Deddf Iechyd Meddwl 1983/2007) ein nod yng Ngrŵp Gofal Treherne yw darparu gofal cymunedol i helpu pob unigolyn i wireddu eu llawn botensial o ran annibyniaeth, hunanbenderfyniad, awtonomiaeth ac urddas.

Mae pob pecyn cymorth yn unigol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.

Mae ein dull yn seiliedig ar egwyddorion Cynhyrfiad isel (low arousal), Dyneiddiol, a Holistaidd.

Rydym ni’n cofleidio’r dulliau Cymorth Gweithredol sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn a Chymorth Ymddygiad Cadarnhaol.

Anabledd Dysgu:

Mae ein ffocws ar gynnydd, adsefydlu, cymorth a sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer pob unigolyn. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Cymorth gweithredol
  • Dull cymorth ymddygiad cadarnhaol
  • Cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Cynlluniau cyfle neu ddysgu
  • Bod yn fentor yn hytrach nag yn ofalwr

Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig:

Mae ein ffocws ar gymorth, galluogi’r canlyniadau gorau a datblygu sgiliau pob unigolyn. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd tawel heb lawer o ofynion
  • Strwythur a ffocws
  • Dim llawer o gynhyrfiad na gofynion
  • Cymorth gweithredol
  • Dull cymorth ymddygiad cadarnhaol
  • Cynlluniau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Cynlluniau cyfle neu ddysgu
  • Bod yn fentor yn hytrach nag yn ofalwr
  • Ymatebion/dulliau synhwyraidd therapiwtig

Anhwylderau meddyliol dirywiol ac unigolion sydd wedi cael niwed i’r ymennydd

Mae ein ffocws ar gefnogi a galluogi’r canlyniadau gorau ar gyfer unigolion drwy hyrwyddo a chynnal lles meddwl. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd tawel a galw isel
  • Amgylchedd diogel
  • Cymorth gweithredol
  • Dull cymorth ymddygiad cadarnhaol
  • Cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Sbarduno gwybyddiaeth a chof

Ymddygiadau hunan-anafu, Camddefnyddio alcohol a sylweddau:

Mae ein ffocws ar adsefydlu, adfer a hyrwyddo/cynnal lles meddwl. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd diogel
  • Strwythur a ffocws
  • Dulliau therapiwtig
  • Cymryd a rheoli risg personol â ffocws

Anhwylderau Personoliaeth:

Mae ein ffocws ar adsefydlu a hyrwyddo/cynnal lles meddyliol. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd diogel
  • Strwythur a ffocws
  • Dulliau therapiwtig ac amgylchedd/cymuned therapiwtig
  • Cymryd a rheoli risg personol â ffocws

Ymddygiad fforensig

Gall ein defnyddwyr hefyd gyflwyno gyda chefndir fforensig/hoffter am ymddygiad troseddol yn ogystal â bod ag anhwylder meddyliol. Mae ein ffocws ar adsefydlu, adfer, rheoli risg a hyrwyddo/cynnal lles meddyliol. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd diogel mewn sefyllfaoedd priodol
  • Fframweithiau cyfreithiol
  • Structure and focus
  • Dulliau therapiwtig
  • Cymryd a rheoli risg personol â ffocws
  • Strategaethau rheoli risg clir

Personoliaethau Caethiwus

Gall ein defnyddwyr hefyd gyflwyno gyda phersonoliaethau caethiwus, yn enwedig o ran camddefnyddio alcohol a sylweddau. Mae ein ffocws ar adfer, gwella a hyrwyddo/cynnal lles meddyliol. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd diogel
  • Strwythur a ffocws
  • Dulliau therapiwtig
  • Rheoli yfed alcohol yn ddiogel os yw'r unigolyn yn gwrthod rhoi’r gorau iddo
  • Cefnogi unigolion i gael mynediad at grwpiau hunangymorth a gweithwyr proffesiynol sy'n arbenigo mewn dibyniaeth.

Anhwylderau Gorfodaeth Obsesiynol

Gall ein defnyddwyr hefyd gyflwyno gydag Anhwylderau Gorfodaeth Obsesiynol a all effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae ein ffocws ar adfer, gwella a hyrwyddo/cynnal lles meddyliol. Rydym ni’n cyflawni hyn drwy:

  • Amgylchedd tawel a galw isel
  • Amgylchedd diogel
  • Strwythur a ffocws
  • Dulliau therapiwtig

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Treherne Care Group. Gwefan gan Delwedd