Ffoniwch ni nawr ar 01341 424650 - enquiries@trehernecaregroup.comEnglish

Cwestiynau Cyffredin

Staff

C. Pa fath o hyfforddiant fydda i’n ei gael?
A. Pob hyfforddiant gorfodol fel sy’n ofynnol yn ôl Iechyd a Diogelwch, Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru. Pob hyfforddiant penodol i ddefnyddwyr fel y cânt eu nodi gan anghenion pob defnyddiwr a/neu staff.

C. A oes cyfleoedd goramser i staff?
A. Oes, ond mae’n bwysig cynnal cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.

C. A oes cyfleoedd mewnol i gael dyrchafiad?
A. Oes gyda phrofiad, sgiliau a chymwysterau. Rydym ni’n hyrwyddo cyfleoedd i staff allu datblygu h.y. “buddsoddi yn ein staff”. Rydym ni’n cefnogi staff unigol i ennill cymwysterau uwch er mwyn gallu cael dyrchafiad a datblygu eu gyrfa o fewn ein gwasanaeth.

C. Fel gweithiwr, ydw i’n gallu gwneud argymhellion i wella ein gwasanaeth, cyfleoedd i staff ac ati?
A. Ydych, mae gennym ni gynllun awgrymiadau staff y gall staff gyfrannu ato. Mae uwch reolwyr yn ymateb i'r cwestiynau neu’r sylwadau sy’n codi cyn gynted â phosibl, ac mae unrhyw syniadau staff a gaiff eu mabwysiadu gan y sefydliad/timau yn cael eu priodoli i'r unigolyn sy'n gwneud yr argymhelliad. Gall staff hefyd gynnig syniadau yn ystod eu cyfarfodydd goruchwylio ac arfarnu, cyfarfodydd tîm, yn ystod arolygiadau Sicrwydd Ansawdd neu ymweliadau’r Cyfarwyddwr Gofal, a'r ymweliadau Unigolyn Cyfrifol fel rhan o'n cydymffurfiaeth â gofynion cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru.

Defnyddwyr/Teuluoedd

C. Pwy fydd yn goruchwylio fy ngofal?
A. Y Cyfarwyddwr Gofal law yn llaw â’r MDT sy’n ymwneud â gofal unigolyn.

C. Sut ydw i’n atgyfeirio fy hun i Grŵp Gofal Treherne am gymorth?
A. Bydd angen i chi gysylltu â’ch Gweithiwr Cymdeithasol/Cydlynydd Gofal os oes gennych chi un i ofyn am atgyfeiriad i Grŵp Gofal Treherne. Yr awdurdod lleol (gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol) sy’n gyfrifol am gomisiynu pecynnau gofal a chymorth.

C. Fel defnyddiwr gwasanaeth, ydw i’n gallu gwneud fy argymhellion fy hun i wella’r gofal a’r cymorth rwy’n eu cael?
A. Ydych, rydym ni’n hyrwyddo fforymau defnyddwyr gwasanaeth a chyfleoedd i rannu syniadau am sut y gallwn ni gefnogi unigolion i sicrhau'r canlyniadau gorau iddyn nhw (diddordebau, hoff bethau, uchelgeisiau ac ati). Gallwch chi gynnig syniadau yn ystod eich cyfarfodydd Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar y Person (PCP), ac adolygiadau mewnol/allanol. Gallwch gynnig syniadau a chodi cwestiynau yn ystod arolygiadau Sicrwydd Ansawdd gan ein Rheolwr Gweithrediadau, ymweliadau’r Cyfarwyddwr Gofal a phan fo’r Unigolyn Cyfrifol yn ymweld fel rhan o'n cydymffurfiaeth â gofynion cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru. (Efallai eich bod yn dymuno gofyn i rywun egluro hyn i chi).

C. Alla’ i ymweld â fy Mab/Merch?
A. Gallwch, mae hon yn rhan bwysig o les unigolyn ac rydym ni’n hoffi gweithio gydag aelodau teulu er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r unigolyn.

C. A fydd gan y staff sy’n gweithio gyda fy Mab/Merch brofiad ac a fyddant wedi’u hyfforddi?
A. Bydd, mae’r holl staff yn cael hyfforddiant gorfodol a penodol i ddefnyddwyr. Mae gan yr holl staff gymhwyster cyfwerth ag NVQ Lefel 2 mewn Gofal o QCF Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y lleiaf. Rydym ni’n hyrwyddo cyfleoedd i ennill rhagor o gymwysterau hyd at QCF Lefel 5 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Gall rheolwyr ymgymryd â chymwysterau lefel uwch sy’n berthnasol i’w lefel nhw o gyfrifoldeb.

C. Alla’ i fod yn rhan o’r broses cynllunio gofal? Ydy fy llais i’n bwysig?
A. Yn bendant. Dyma sydd wrth wraidd pob cymorth a gynigiwn i unigolion. Fodd bynnag, rydym ni’n parchu dewisiadau’r rheiny sy’n gallu hyrwyddo awtonomi a allai ddewis cyfyngu mewnbwn gan deuluoedd.

C. Pa weithgareddau sydd yn yr ardal ar gyfer fy Mab/Merch?
A. Pryd bynnag y bydd unigolyn yn dod i’n gwasanaeth, byddwn ni’n cynnal asesiad o anghenion. Yna, caiff gweithgareddau eu nodi yn fewnol ac yn lleol, yn unol â’u galluoedd a’u dewisiadau.

C. A oes cyfleoedd gwaith ar gael i fy Mab/Merch?
A. Rydym ni’n hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth warchodol ac yn cefnogi unigolion i gael mynediad at amrywiaeth o opsiynau yn lleol.

C. A all fy Mab/Merch gymryd rhan mewn rhaglenni addysg uwch, fel y coleg?
A. Gallant. Rydym ni’n gweithio’n agos â’r coleg lleol ac yn hyrwyddo ymgysylltiad â chyrsiau sydd o ddiddordeb i’r unigolyn.

C. Pwy sy’n rheoleiddio Grŵp Gofal Treherne?
A. Arolygiaeth Gofal Cymru sy’n rheoleiddio ein gwasanaeth. Mae ein Cwmni wedi’i gofrestru â’r Arolygiaeth o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

C. A yw staff cymorth yn cael eu sgrinio am droseddau blaenorol?
A. Fel rhan o’n proses recriwtio drylwyr, mae pob aelod o staff yn destun gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriad Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed fel rhan o’r broses gyfweld gychwynnol. Mae newidiadau diweddar mewn deddfwriaeth yn golygu y bydd yn rhaid i bawb sy’n gweithio mewn gofal gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru.

Comisiynwyr

C. Os ydw i’n gwneud atgyfeiriad, pa mor hir fydd hi’n cymryd fel arfer i benderfynu p’un a ddylid bwrw ymlaen â’r atgyfeiriad hwnnw?
A. Mae hyn yn dibynnu ar yr wybodaeth a ddarperir a’r brys am yr atgyfeiriad, y math o wasanaeth sydd ei angen ac ati. Fel arfer, bydd ateb yn cael ei roi ar ôl cytuno i asesu unigolyn i’w ystyried ar gyfer ein gwasanaeth o fewn 48 awr neu yn dilyn sgwrs ffôn â’r Cydlynydd Gofal/person sy’n atgyfeirio.

C. A yw’r sefydliad wedi’i gymeradwyo gan awdurdodau comisiynu o dan fframweithiau penodol e.e. Fframwaith Gofal Cartref Gogledd Cymru?
A. Rydym ni wedi bod yn destun y broses gyda Fframwaith Gofal Cartref Gogledd Cymru gan fodloni ei feini prawf ac mae gennym ni’r contractau perthnasol ar gyfer darparu gwasanaeth. Rydym ni hefyd ar y rhestr gymeradwy sefydlog ar gyfer lleoliadau preswyl ar gyfer anableddau dysgu, anableddau iechyd meddwl neu gorfforol neu anableddau synhwyraidd [Grŵp Cydweithredol y Canolbarth a Gorllewin].

Polisi Preifatrwydd

© 2024 Treherne Care Group. Gwefan gan Delwedd